Session 14: Use of Welsh

Mae`r haen ymwthiol yn cael ei ffurfio gan y coed talaf, sy`n tyfu mor uchel â phosib i gyrraedd y golau

        The emergent layer is formed by the tallest trees, which grow as high as possible to reach the light

Mae`r rhain yn aml yn rhywogaethau sy`n tyfu`n gyflym ond maen nhw`n fyrhoedlog, fel bedw

         These are often fast growing species but they are short lived, such as birch

Mae`r haen goed yn cynnwys y coed mwyaf a hynaf, derw yn bennaf

         The tree layer contains the biggest and oldest trees, mainly oak

Maen nhw`n llenwi`r lleoedd rhwng y coed ymwthiol, lle gallant dderbyn golau haul a dŵr glaw

         They fill the spaces between the emergent trees, where they can receive sunlight and rain water

Mae`r haen lwyni yn cynnwys rhywogaethau coed llai fel celyn, neu goed derw a bedw ifanc

         The shrub layer contains smaller tree speices such as holly, or young oaks and birches

Mae`r haen llysiau yn cynnwys rhedyn, gweiriau a phlanhigion blodeuol

         The herb layer contains ferns, grasses and flowering plants

Mae`r rhain y dechrau tyfu yn gynnar yn y flwyddyn, er mwyn derbyn golau haul cyn i`r coed ddatblygu eu canopiau o ddail

         These begin to grow early in the year, to receive sunlight before the trees develop their canopies of leaves

Mae`r haen ddaear yn cynnwys mwsoglau a phlanhigion bach eraill

         The ground layer contains mosses and other small plants

Mae`n dibynnu ar y ddaear bod yn dywyll ac yn llaith o dan orchudd y coed

         They depend on the ground being dark and damp underneath the tree cover

Mae haen arall yn cynnwys `epiffytau`

         Another layer consists of `epiphytes`

Mae`r rhain yn blanhigion fel mwsoglau, cennau a rhedyn a all dyfu ar foncyffion a changhennau coed

         These are plants such as mosses, lichens and ferns which can grow on the trunks and branches of trees

Mae`r rhywogaethau coed brodorol fel derw yn datblygu systemau gwreiddiau ymestynnol iawn

         The native tree species such as oak develop very extensive root systems

Mae`r rhain yn cynnal y coed ar lethrau creigiog serth gyda phridd tenau

         These support the trees on steep rocky hillsides with thin soil